Mae darparu ynni dibynadwy, adnewyddadwy yng Nghymru yn flaenoriaeth uchel. Ymhellach i uchelgais Llywodraeth y DU i gyflawni 'Net Zero' erbyn 2050, ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru dargedau i ddarparu 70% o ddefnydd trydan Cymru trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2030. O hyn, y dyhead yw cael o leiaf 1GW o fewn perchnogaeth gymunedol.
Trwy ddarparu fferm wynt ar y tir Y Bryn, rydym yn gobeithio darparu cyfraniad sylweddol tuag at y targedau hyn.